Margaret AnnMORRIS(Bont Garreg Bach, Llansannan)
Dymuna Tudur, Ceri, Sian ac Edward ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atynt yn eu colled enfawr. Diolch am bob ymweliad, galwadau ffôn a'r cardiau niferus a dderbyniwyd, ac i bawb a fynychodd y gwasanaeth i gofio bywyd Ann - cyfaill i gymaint yn Llansannan a'r cylch.
Diolch i'r Parch Eric Jones am arwain y gwasanaeth, i Mrs Mair Owen am gyfeilio wrth yr organ, ac i Mrs Eurgain Jones am godi'r canu, y tri wedi gwneud eu gwaith mor fedrus. Hefyd, diolch i gyfeillion y capel, ac i Mrs Carol Wynne a'r criw am y lluniaeth hyfryd. Diolch i'r ymgymerwyr R.W. Roberts a'i Fab, Dinbych am bob cymorth ac am y trefniadau trylwyr ac urddasol.
Gwerthfawrogir yn fawr y rhoddion hael o £2,107 a dderbyniwyd er cof, tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn ac Ymchwil Canser Cymru.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret